Pethau fydd o ddiddordeb ym mis Rhagfyr:
1af, Arctwrws (ffigwr 1) yn weledol yn y cyfnos ac awyr y wawr. Mi fydd yn weledol oddeutu 17:07 fel mae'r cyfnos yn pylu 145 gradd uwch y gorwel Gorllewinol. Mi fydd yn disgyn at y gorwel gan fachlud 2 awr a 26 munud ar ôl yr Haul am 18:52. Yn y bore mi fydd yn codi am 03:14, 4 awr a 15 munud cyn yr Haul ac yn cyrraedd 30 gradd cyn pylu pan fydd hi'n gwawrio oddeutu 06:48. Mae Arctwrws tua 37 blwyddyn golau i ffwrdd o'r Ddaear. Y seren ddisgleiriaf yng nghytser Y Cowmon.
Ffigwr 1: Arctwrws yn y Cowmon.
Ffigwr 2: Delwedd optegol Arctwrws (DSS2 / MAST / STScI / NASA).
yr Efeilliaid:
Yr Efeilliaid yw Brenin y cawodydd sêr. Yn gallu cynhyrchu 120 o sêr gwib amryliw pob awr yn ei hanterth. Wedi eu cynhyrchu o falurion asteroid Paethon 3200 (ffigwr 3 & 4), a ddarganfyddwyd yn 1982. Mae'r gawod yn ymddangos rhwng Rhagfyr y 7fed a 17eg. Mae ar ei orau noson y 13eg a bore'r 14eg. Mi fydd y Lleuad yn disgleirio a nifer y sêr gwib yn hardd i'w gwylio cyn belled a'ch bod mewn ardal dywyll.
Ffigwr 3: Delwedd radar o Patheon 3200, Arecibo, Rhagfyr 17eg, 2017.
Ffigwr 4: Cylchdro eliptig Patheon 3200 yn croesi cylchdro Mawrth, y Ddaear, Gwener a Mercher.
21ain fydd heuldro'r gaeaf (ffigwr 5), dyma ddiwrnod byrraf yn hemisffer y Gogledd.
Ffigwr 5: Heuldro Rhagfyr neu'r gaeaf.
Wrsid:
Mae sêr gwib Wrsid yn cychwyn yn flynyddol oddeutu'r 17eg o Ragfyr am oddeutu wythnos hyd y 25ain/26ain. Mae'r gawod sêr wedi eu henwi am ei phwynt gwefru sydd yn agos i'r seren Wrsa Fach Beta (β) (Kochab), (ffigwr 6) yng nghytser Wrsa Fach.
Ffigwr 6: Lleoliad β Wrsa Fach.
Ffigwr 7: Comed 8P/Tuttle, canfyddwyd gan Horace Parnell Tuttle ar Ionawr 5ed 1858.
Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda ar gyfer 2020 i'r holl ddarllenwyr.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.