Stellarium

Meddalwedd seryddiaeth sy’n galluogi eich cyfrifiadur droi’n blanetariwm. Gall ei ddefnyddio i drefnu digwyddiad gweld sêr p’run ai os ydych yn edrych gyda’ch llygad, sbienddrych neu delisgop.

Os nad yw’r tywydd yn ffafriol mae Stellarium yn eich galluogi i fwynhau’r awyr dywyll mewn unrhyw leoliad gan ei fod yn cynnwys amgylchedd llawn delweddau o alaethau, planedau, sêr a llawer mwy.

Nodweddion Nodedig

  • Mae Stellarium yn eich galluogi i edrych ar yr awyr dywyll o unrhyw leoliad yn y byd p’run ai yn y gorffennol, presennol neu’r dyfodol
  • Mae’n eich galluogi i weld cyfnod presennol y lleuad a’i wyneb dros y dyddiau nesaf
  • Gallwch archwilio a mwynhau patrymau gwahanol y sêr o gyfnodau diwylliannau hynafol.
  • Mae’n eich galluogi newid rhwng edrych ar y galaethau a nifylau tebyg i ddefnyddio telesgop neu edrych ar yr awyr dywyll gyflawn gyda’ch llygad

Defnyddio Stellarium: Agorwch y meddalwedd, mi fydd yn dangos yr awyr yn unol a’r dyddiad ac amser ar eich cyfrifiadur. Y wlâd rhagosodedig yw Paris, Ffrainc. Gallwch reoli eich gwelediad drwy ddefnyddio’r llygoden. Mi fydd clicio a llusgo yn eich symud o gwmpas yr awyr a mi fydd olwyn y llygoden yn chwyddo’r sgrin. Gallwch glicio ar wrthrych yn yr awyr gyda’r botwm chwith a mi fydd gwybodaeth maint a phellter yn arddangos. Mae posib canoli ar y gwrthrych dan sylw gan ddefnyddio bylchwr ar eich allweddell.

Awgrym: Gall fforio lleuadau Iau fod yn rhywbeth gwych i’w wneud. Agorwch Stellarium a chwilio am Iau. Mi fydd hyn yn canfod Iau yn syth er efallai na fydd i’w weld yn awyr y nos.

Lawrlwythwch y pecyn cywir ar gyfer eich system gyfrifiaduro o’r dudalen gartref

Stellarium