Mythau a Chwedlau

Mae awyr yn y nos yn fyw o fytholeg a chwedlau. Ym mhob diwylliant, bu’r sêr parhaol yn dudalennau llyfr storïau, a byddwch yn dod o hyd i storïau am anghenfilod, dirgelwch a hud a lledrith yn yr awyr.

Mae adnabod y cytserau yn beth gwych i'w wneud, er mwyn eich cysylltu â rhyfeddodau'r bydysawd. Er gall y mythau Groegaidd fod yn amlwg mewn iaith gwyddoniaeth a storïau'r awyr, mae chwedlau eraill o wahanol ddiwylliannau hefyd yn parhau, gan gynnwys rhai o Gymru. Roedd y storïau a mythau hyn wedi eu gwau i mewn i fywydau bob dydd y poblogaethau hynafol, gan roi ymdeimlad o bwrpas iddynt a’u rhwymo yn agosach at y byd naturiol o'u cwmpas, yn ogystal â darparu moesau, doethineb a chyfiawnder. Trwy wybod y storïau y tu ôl i’r sêr, byddwch nid yn unig yn cael eich swyno a'ch cysylltu â diddordeb parhaol y ddynoliaeth mewn nefoedd, ond byddwch hefyd yn ddiau yn gweld gwersi rhai o'r mythau a storïau yn cael eu hailadrodd mewn bywyd modern!

Roedd y Celtiaid yn gweld cytser yr Efeilliaid (Gemini) nid fel gefeilliaid, ond fel dau frawd, Gwyn a Gwyrthur, yn brwydro am gariad Creuddylad, y ferch brydferthaf - sy’n aml yn cael ei phortreadu yn gwisgo coch. Yn wahanol i’r amser modern lle’r edrychir yn fwy amheus ar ferched sy’n gwisgo coch, roedd coch yn y byd Celtaidd yn cynrychioli  morwyndod a rhinwedd, a dyma’r lliw a wisgai merched ar ddiwrnod eu priodas. Roedd Gwyrthur wedi mopio’n lân am Creuddylad. Fodd bynnag, daeth Gwyn, brawd cenfigennus a chas Gwyrthur, a dwyn Creuddylad oddi arno, a thorrodd Gwyrthur ei galon. Nid oedd Gwyrthur yn fodlon gollwng gafael ar ei gariad, a chyrchodd fyddin i’w dwyn yn ôl. Bu brwydr chwyrn a gwaedlyd. Curodd Gwyn ei frawd ac ailymuno â’i gariad a chymryd y penaethiaid yn gaeth fel dialedd. Dywedir fod y ddau frawd yn dal i ymladd yn y nen am law’r Ferch mewn Coch bob Calan Mai, ac y byddant yn parhau i wneud hynny tan Ddydd y Farn pan fydd yr enillydd yn cael ei chadw iddo’i hun am byth. Cymerwyd eu cystadleuaeth fel cynrychiolaeth o’r gystadleuaeth rhwng haf a'r gaeaf, ac mae thema cariad, colled a brwydr rhwng da a drwg yn dal i fod yn amlwg iawn mewn storïau a hanesion yr amser modern.

Pan yng Nghymru, chwiliwch am y Ddraig! Mae’r Ddraig, sydd yn symbol o Gymru ac yn fwystfil o gryfder a mawredd drwy’r holl fyd, hefyd i'w chael mewn mytholeg mewn amryw o wahanol wledydd. Bob nos mae’n hefru a chwythu yn yr awyr serennog, ac ym mis Hydref mae'n ymffrostio yn ei chawod sêr gwib ei hun, 'y Draconids'. Mae un o'r storïau Groegaidd yn dweud hanes Athena duwies dewrder a safodd yn gadarn, pan ymosododd draig arni, a thaflu’r bwystfil dig yn uchel i’r nen, lle mae'n parhau hyd heddiw, yn anadlu ei chynddaredd tanllyd yn awyr y nos.
Mabinogion