Awyr y Nos ym mis Gorffennaf 2018

02.07.18

Lyra – Seren ddisgleiriaf Lyra, Vega, y pumed seren ddisgleiriaf yn yr awyr. Seren las-wen, 25.3 blwyddyn golau i ffwrdd. Mae ei màs yn 3 gwaith yn fwy na màs yr Haul ac oddeutu 50 gwaith yn ddisgleiriach. Llosga ei thanwydd niwclear ar raddfa uwch na’r Haul ac felly bydd yn disgleirio am gyfnod byrrach o amser. Mae Vega yn ieuengach na’r Haul, yn ddim ond ychydig o gan miliwn o flynyddoedd oed, ac wedi’i hamgylchynu gan ddisg oer a thywyll o lwch lle ffurfir cysawd yr haul embryonig!

Mae seren ddwbl o’r enw Epilson Lyrae i fyny ac i’r chwith o Vega. Byddai pâr o ysbienddrych yn eu dangos yn hawdd – efallai ei bod yn bosibl eu gweld nhw heb gymorth gweledol.

Mae defnyddio telesgop, a bod golygfa dda, yn dangos bod y ddwy seren a welir yn seren ddwbl hefyd, felly gelwir hi yn ddwbl ddwbl!

Ffig 1

Cygnus

Cygnus, yr Alarch, weithiau’n cael ei galw’n “Groes Ogleddol” oherwydd ei siap croes nodweddiadol, ond rydym fel arfer yn meddwl amdani fel Alarch yn hedfan. Mae Deneb, sef y geiryn Arabaidd am “gynffon”, yn llwybro cynffon yr alarch. Mae oddeutu 2600 blwyddyn golau i ffwrdd ac yn dangos mor ddisglair oherwydd ei bod yn allyrru tua 80,000 gwaith mwy o olau na’r Haul. Petai Deneb cyn agosed â’r seren ddisgleiriaf yn yr awyr ogleddol, Sirius, byddai’n ymddangos cyn wyched â’r hanner lleuad ac ni fyddai’r awyr fyth yn dywyll tra y byddai’n uwch na’r gorwel!

Mae’r seren, Albireo, pen yr Alarch yn wanach, ond yn olygfa dda mewn telesgop bach. Mae Albireo wedi’i wneud o ddwy seren, melyngoch a glaswyrdd, sy’n darparu cyferbyniad lliw rhyfeddol. Cyfeirir atynt fel y seren dlysaf a ellir ei gweld.

Mae Cygnus wedi’i lleoli ar linell y Llwybr Llaethog, y disg o’n galaeth ni, ac yn darparu cyfoeth o sêr a chlystyrau i’w harsylwi. I’r chwith o’r llinell sy’n cysylltu Deneb a Sadr, y seren yng nghanolbwynt yr esgyll estynedig, gallwch, dan awyr glir a thywyll, weld ardal sy’n dywyllach na’r ardal o’i chwmpas. Dyma Hollt Cygnus a achosir gan amguddiad golau o sêr pell gan res o lwch yn ein braich troellog lleol. Daw’r llwch o elfennau megis carbon sydd wedi’u hadeiladu yn y sêr a’u taflu i’r gofod trwy ffrwydriadau sy’n codi gwrthrychau megis nebula planedol M57 (Ffig 1).

Y clwstwr yn Ursa Fawr

Dengys y map (Ffig 2) glystyrau i’r de tua 10yh Amser Haf Prydain (BST) yng nghanol Gorffennaf. Seren amlwg, sydd ychydig i’r gorllewin o’r De, yw Arcturus yn Bootes. Yr ail seren ddisgleiriaf yn yr awyr ogleddol (ar ôl Sirius). Yn uchel tuag at y gogledd (nid yw ar y siart) ac yn uchel i’r de o Arcturus mae Ursa Fawr gyda’i dosbarthiad amlwg o’r Aradr. Yn symud tuag at y de i’r chwith o Bootes croeswch glwstwr Hercules gyda’i chlwstwr crwn, M13, ac yna ar draws clwstwr mawr ond llai amlwg Ophiucus tan, yn isel uwchben y gorwel deheuol mae Sagittarius a Scorpius. I’r de o’r DU – ac yn well yn Ne Ewrop mae’r seren goch ddisglair, Antares. Yn codi yn y dwyrain mae ardal y Llwybr Llaethog sy’n cynnwys Cygnus yn ogystal â Lyra. Yn is na hynny mae Aquilla. Mae tair seren ddisglair Deneb (yn Cygnus), Vega (yn Lyra) ac Altair (yn Aquila) yn ffurfio “Triongl yr Haf”.

Ffig 2

Ffig 3

Mae sêr o’r Aradr, a ddengys wedi’u cysylltu gan linellau trwchus (Ffig 3), yn ffurfio un o’r patrymau sêr fwyaf adnabyddus yn yr awyr. Hefyd yn cael ei galw’n Big Dipper, gan ei bod yn ffurfio rhan o glwstwr yr Arth Fawr – sydd ddim yn rhwydd i’w weld! Mae’r sêr Merak a Dubhe yn ffurfio’r pwyntiau sy’n arwain at Seren y Gogledd, a chanfod y Gogledd. Mae’r sêr Alcor a Mizar yn ffurfio dwbl llygad noeth sy’n ad-dalu arsylwad mewn telesgop bach ac yna dengys Mizar fel seren ddwbl yn ddigon rhwydd. Mae seren goch, wanach yn ffurfio triongl ag Alcor a Mizar.

Mae Ursa Fawr yn cynnwys gwrthrychau “awyr ddofn” diddorol. Dengys y disgleiriaf, a restrir yng Nghatalog Messier, yn y siart, ond mae hefyd galaethau gwanach yn yr ardal hefyd. Yn uwch ac i’r dde o’r clwstwr mae pâr o alaethau sy’n rhyngweithio M81 ac M82 (Ffig 4). Mae M82 yn cael cyfnodau o ffrwydradau mawr sy’n ffurfio sêr a gelwir hi yn “alaeth ffrwydro sêr”. Gellir eu gweld â sylladur o bwer isel ar delesgopau bychain.

Ffig 4 (M81 a M82)

Ffig 5

Rhwng clwstwr Bootes a seren ddisglair Vega yn Lyra, mae clwstwr Hercules (Ffig 5). Seren Goch Enfawr Alpha Herculis neu Ras Algethi, ei enw Arabaidd, yw un o’r sêr mwyaf a adnabyddir, gyda diamedr sydd oddeutu 500 gwaith mwy na’r Haul. Mae’r disgleirdeb yn cynyddu tuag at y canol ble mae’r crynodiad mwyaf o sêr. Golygfa hyfryd drwy delesgop bach. Mae’n cynnwys oddeutu 300,000 o sêr mewn ardal o ofod sy’n 100 blwyddyn golau ar draws, a’r clwstwr grwn disgleiriaf a ellir ei weld yn hemisffer y gogledd.

PLANEDAU:

Mercher sy’n disgleirio o gwmpas maint serofed yn gynnar yn y mis gan gyrraedd ei hestyniad mwyaf i’r gorllewin o’r Haul ar Orffennaf 12fed. Caiff ei gweld wedyn oddeutu 15 gradd i lawr i ochr dde isel Gwener ond bydd yn gwanhau erbyn y 17eg ac yna’n pylu’n sydyn o’r golwg i oleuni’r Haul.

Gorffennaf 9fed – machlud: Gwener yn agos at Regulus yn Leo. 45 munud wedi’r machlud ar y 9fed, efallai y gwelwch Gwener yn disgleirio’n llachar i’r dde o Regulus yn Leo.

Gorffennaf 10fed cyn y wawr: Y Lleuad yng nghlwstwr Hyades. Bydd Lleuad cilgant gul i’w gweld ymysg clwstwr Hyades.

Gorffennaf 15fed, wedi’r machlud: Gwener i’r chwith o Leuad gilgant gul. Wedi’r machlud ac os bydd gorwel gorllewinol isel.

Gorffennaf 19eg wedi’r machlud: Os bydd hi’n glir, Iau dan wedd Leuad. Mae Alpha Libri yn is ac i’r chwith.

Gorffennaf 24ain wedi’r machlud: Sadwrn yn agos i wedd Leuad. Yn is ac i’r chwith o’r wedd Leuad.

Mark R Smith FRAS  
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.