Yn 2018 mi fydd cawod sêr yr Efeilliad ar ei orau rhwng y 14eg a 15fed o Ragfyr. Mi fyddent serch hynny yn weledol o'r 4ydd i'r 17eg o Ragfyr.
Yr Efeilliad yr un o'r cawod sêr mwyaf trawiadol o'r flwyddyn ble gellir gweld bron i 120 o gawod sêr pob awr ar ei frig.
Mae'r gawod yn cael ei henw o glwstwr yr Efeilliad (ffigwr 1) oherwydd bod cawodau yn deillio o'r clwstwr yma yn yr awyr.
Yn wahanol i gawod sêr eraill, mae'r Efeilliad yn gysylltiedig ac asteroid (ffigwr 2) a nid comed; y rhiant yw 3200 Paethon. Mae'r asteroid yn cymryd o gwmpas 1.4 mlynedd i gylchu'r Haul.
Sut i weld yr Efeilliad:
Ni fyddwch angen offer arbennig na llawer o sgil er mwyn cawod sêr. Oll fydd angen arnoch yw awyr glir a llawer o amynedd. Ewch i lecyn tawel i ffwrdd o olau llachar. Unwaith byddwch yno efallai bydd angen rhyw 15-20 munud i'ch llygad ddod i arfer a'r tywyllwch.
Ffigwr 1. Clwstwr yr Efeilliad.
Ffigwr 2. Asteroid.
Mi fydd yr Efeilliad i'w gweld yn llachar eleni gan na fydd y lleuad yn amharu ar y gwelediad. Mi fydd y cawod sêr i'w gweld yn yr oriau ar ôl hanner nos ond mae posib gweld rhai cyn hynny hefyd.
Rhagfyr 21ain yw'r alban arthan, sef diwrnod byrra'r flwyddyn yn hemisffer y Gogledd (ffigwr 3).
Ffigwr 3. Rhagfyr neu'r alban arthan.
Rhagfyr 22ain fydd lleuad llawn ola'r flwyddyn, gelwir hefyd yn leuad oer (ffigwr 4) oherwydd y tymheredd isel yn rhan fwyaf o hemisffer y Gogledd.
Ffigwr 4. Lleuad oer dros fynyddoedd. ©iStockphoto.com/panaramka
Rhagfyr 22ain i'r 23ain fydd cawod sêr Wrsa ar ei orau (ffigwr 5).
Mae cawod sêr Wrsa yn weithredol rhwng 17eg a 24ain ac efallai ar y 16ain. Mae'r gawod gan amlaf ar ei orau rhwng y 22ain a 23ain. Ar ei frig mi allwch weld rhwng 5 a 10 cawod sêr pob awr.
Wedi ei enwi ar ôl Wrsa fach
Mae'r gawod wedi ei enwi ar ôl yr Wrsa oherwydd bod sêr gwib yn deillio o glwstwr Wrsa Fach. Mae'r Wrsa yn gysylltiedig a chomed 8P/Tuttle.
Ffigwr 5. Clwstwr Wrsa Fach ac Wrsa Fawr.
Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi'n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae'n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Dda i chwi oll seryddwyr!
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.