Wybren y Nos ym Mis Mehefin

01.06.17

Wybren y Nos ym Mis Mehefin

Mae’r siart atodol yn dangos yr wybren gyda’r nos ar gyfer canol mis Mehefin tua 11 pm.

Ym mis Mehefin, nid yw’r wybren gyda’r nos fyth yn mynd i gyflwr gwirioneddol “dywyll” oherwydd nid yw’r Haul byth yn fwy na 18 gradd islaw’r gorwel ac mae “diwrnod hiraf” y flwyddyn neu Heuldro’r Haf ar 21ain diwrnod y mis. Er mai dyma ddechrau’r haf yn swyddogol, mewn gwirionedd, yn nhermau seryddol, mae’r Ddaear ar ei bwynt pellaf o’r Haul yn ei gylchdro ar hyn o bryd, ac felly rydym yn cael gaeafau mwynach a hafau oerach na’n cymdogion yn Hemisffer y De....... neu o leiaf dyna’r ddamcaniaeth!!

Fodd bynnag, wrth edrych ar y wybren, mae ychydig o blanedau i’w gweld o hyd drwy gydol y mis. Mae Iau yn parhau i ddominyddu wybren y De a’r De Orllewin pan fydd yn tywyllu, gan ddangos ei osgordd arferol o bedair lleuad lachar a pharthau o gymylau ar ddisg y blaned.  Bydd y Lleuad yn ymweld ag ardal Iau yn yr wybren tua 3 Mehefin, ac eto ar ddiwedd y mis ar y 30ain i’r sawl sydd am achub y cyfle i dynnu lluniau.

Gan godi’n isel yn y de-ddwyrain gyda’r Machlud, ac felly i’w gweld drwy gydol y nos, y mae’r blaned gylchog, Sadwrn.  Er ei bod yn y lle gorau i’w gwylio ar hyn o bryd, mae’r blaned ar bwynt isel iawn yn yr wybren, byth yn fwy na tua 15 gradd – neu 30 gwaith diamedr y lleuad lawn - uwchben gorwel y De, a bydd yn aros mewn lleoliad gwael am yr ychydig o flynyddoedd nesaf wrth iddi droi o gwmpas ein Haul, ac wrth wneud hynny, bydd yn dringo at uchderau uwch yn y sffêr wybrennol. Er mwyn rhoi syniad o sut olwg sydd ar y blaned trwy delesgop bach, atodir ffotograff a dynnais i drwy sgôp. Bydd Lleuad Lawn lachar yn ymddangos 2 radd neu 4 gwaith diamedr y blaned ar noson 10 Mehefin.

Y blaned olaf y gellir ei gweld yn rhwydd y mis hwn yw Gwener, er mai hon yw un o’r rhai yn ein plith sy’n codi’n gynnar. Gan edrych tuag at y gorwel yn y Dwyrain unrhyw bryd o 4 am ymlaen, dylech chi fod yn gallu gweld pwynt golau llachar sef Gwener, tua 15 gradd uwchben yr wybren wrth iddi ddechrau mynd yn olau gyda’r wawr. Bydd llun syml ar “ffôn camera” a dynnais i ychydig o wythnosau yn ôl yn rhoi syniad i chi o’r hyn y dylech chi fod yn chwilio amdano, a hefyd yn dangos bod astro-ffotograffiaeth syml yn hynod o hawdd. Daliwch y ffôn symudol yn sad, ac ar ôl dewis opsiwn Gwawr/Machlud neu olau isel yng ngosodiadau eich camera, dylech chwyddo rhan o’r gorwel a’r blaned a gwasgu botwm  y botwm yn rheoli’r caead yn ofalus. Mae’n syml!!! Fel ffordd arall o adnabod Gwener, tua 20 a 21 Mehefin, bydd lleuad gilgant gerllaw, i ychwanegu at gynnwys eich ffotograff.’r

Mae un gawod o sêr gwib i’w gweld trwy’r mis, sef y Bootids, sy’n deillio o’r clwstwr siâp barcud sef Bootes y gellir ei weld yn fras yng nghanol siart yr wybren.Mae’n gawod nad yw’n cael ei gwylio lawer oherwydd nifer amrywiol iawn y sêr gwib a gynhyrchir gan y gawod. Cafwyd ffigyrau o rhwng 5 a 100 seren wib yr awr gan wylwyr yn y gorffennol, a gallai eleni fod yn ffafriol, oherwydd y bydd y Lleuad ymhell allan o'r ffordd yn ystod yr adeg y mae disgwyl y bydd y gweithgarwch ar ei fwyaf sef  tua 27 Mehefin.

Mae gennym un gomed y mae “bron yn bosibl ei gweld â’r llygad noeth” i’w gweld o hyd, sef Comed Johnson, er y bydd tuedd i’r Lleuad Lawn ar 9 Mehefin amharu ar arsyllu arni am rai diwrnodau bob ochr i’r dyddiad. Mae hynny’n drueni, gan mai ar noson y 5ed y bydd y Gomed agosaf at y Ddaear, a dylai fod ar ei mwyaf llachar bryd hynny. Darperir siart i’ch helpu i olrhain yr ymwelydd hwn o’r wybren, a dylai fod yn bosibl ei weld trwy ddefnyddio binocwlars wedi’u gosod ar dreipod.

Y peth neu “bethau” olaf i gadw llygad arnynt yn ystod y mis hwn a’r ychydig fisoedd nesaf yw cymylau sy’n goleuo gyda’r nos. Mae’r rhain yn gymylau uchel iawn sy’n cynnwys llwch a chrisialau rhew, maent yn ffurfio ryw 50 milltir i fyny yn uchel yn ein hatmosffer ac felly mae’r Haul yn parhau i’w goleuo am ryw awr a hanner i ddwy awr ar ôl i’r haul fachlud a chyn iddo godi yn y bore. Edrychwch i lawr yn isel yn yr wybren yn y gogledd-orllewin ar ôl Machlud yr haul ac i’r gogledd-ddwyrain cyn y Wawr er mwyn cael cip ar y cymylau glas trydanol nefolaidd hyn fel gwelwch yn y llun atodedig gan NASA.

Wel, dyna ychydig o bethau i gadw llygaid ar agor amdanynt, hyd yn oed gyda’r nosweithiau byrion o’n blaenau yn yr Haf, felly gaf i ddymuno pob lwc ac wybren glir i chi!

Les Fry – Seryddiaeth Canolbarth Cymru.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.